Carcharorion Rhyfel

Stalag 8b/344

Tudalen Gartref    Fersiwn Saesneg

Hanes Fy Nhaid

 

Lluniau Dirgel

 

Gwybodaeth Gan Ymwelwyr

 

Llyfrau

 

Linciau

Hanes Fy Nhaid.

Cafodd fy Nain a Taid drwydded arbennig i briodi, gan bod fy Nhaid yn rhan o’r fyddin ac am fynd i'r rhyfel. Gadawodd ei gartref yn Lerpwl â’i wraig yn feichiog.

Roedd fy Nhaid – John Jeffers yn un o’r rhai anffodus a gafodd eu dal yn Dunkirk. Anfonwyd ef i StalagVIIIB a oedd yn ddiweddarach wedi ei ymuno gyda Stalag344. (Gwelir y map isod)

Ei rif oedd 13331, gwelir y rhif yma isod ar ddarn o bapur oedd yn cael ei yrru gyda llythyrau yr oedd fy Nain a Taid yn ysgrifennu at eu gilydd.

Roedd fy Nhaid yn y Gwersyll Carcharorion Rhyfel (POW) am 5 mlynedd.

Tra roedd o yno os oedd yn lwcus cafodd waith llafurio, roedd y dynion a oedd yn cael gwaith llafurio yn ystyried eu hunain yn lwcus gan fod hynny yn eu hachub rhag ddiflastod. Ond cafodd ei “court marshalled” ddwy waith ac o ganlyniad i hyn, ni chafodd fy nhaid lawer o waith ar ôl hynny. (gwelir yn y ddogfen isod) 

Yn fras ddywedyd yma bod fy nhaid wedi anufuddhau i orchymyn a roddwyd iddo i beidio ag ysmygu yn y gwersyll, ac hefyd am ymosod ar un o warchodwyr y gwersyll.

 

I adloni eu hunain roeddent yn gwneud pob math o bethau, roedd fy nhaid yn rhan o fand, yn chwarae’r saxaffon (gwelir llun isod). Roedd y band yma wedi ei hebrwng i Berlin er mwyn diddanu milwyr Almaeneg, ond mae hynny’n stori arall. (a fydd yn cael ei ychwanegu i'r safle cyn bo hir)

Llun o'r band. Y dyn a'i wyneb wedi ei amgylchynu â choch yw fy nhaid. 

 

Llun o ffyrdd eraill o adloniant yn y gwersyll.

 

Llun o fy Nhaid a  gweddill y carcharorion a oedd yn yr un caban ag ef. Eto yr un sydd wedi ei amgylchynu â choch yw fy Nhaid.

 

Roedd fy Nhaid yn perthyn i’r grefydd catholig. Roedd yn dod o deulu â chefndir catholig cryf. Gwelwch isod cerdyn gweddi a oedd o’n gadw yn ei boced yn ystod y rhyfel.

 

Ymdaith Marwolaeth Lamsdorff, Dianc a Chyrraedd Adref.

Ym mis Ionawr 1945, roedd gwersylloedd carcharorion rhyfel yn cael eu gwagio yn bellach i fewn i’r Almaen gan bod llinnell blaen y Rwsiaid yn agoshau. Stalag344 oedd un o’r gwersyllau cyntaf i gael ei wagio.

Cyn gadael y gwersyll roedd y milwyr yn gwisgo gymaint o ddillad ag y gallent gan bod y tywydd yn ddrwg yng nghanol y gaeaf. Roedd y rhan fwyaf o’r carcharorion yn wan cyn gadael am yr ymdaith gan ei bod yn tynnu tuag at ddiwedd y rhyfel, a doedd yr Almaen ddim yn gallu fforddio prynu llawer o fwyd i’w carcharorion.

Ymdeithiodd miloedd o garcharorion allan o’r gwersyll, doedd neb yn siwr beth oedd am ddigwydd iddynt, roedd rhai yn meddwl eu bod am gael eu saethu neu eu gorfodi i gerdded nes iddynt farw. Ond roedd llawer, gan gynnwys fy Nhaid wedi cyrraedd pwynt lle doedd dim ots ganddynt, doedd dim ofn marw arnynt bellach, roedden nhw’n gwybod eu bod nhw am farw, dim ond pryd, oedd y cwestiwn.

Roedd llawer wedi marw ar yr ymdaith oherwydd eu bod yn wan, ond pan gyrrhaeddodd y milwyr Americanaidd yn mis Ebrill fe adawyd y carcharorion oedd ar ôl yn rhydd. Ond erbyn hyn roedd fy nhaid yn ôl ym Mhrydain mewn ysbyty gan ei fod mor wan. 

O fewn diwrnod o ddechrau'r ymdaith roedd fy Nhaid wedi dianc efo rhai o’i ffrindiau, roedd y rhan fwyaf o’r carcharorion a wnaeth hyn yn marw.

Cerddodd o Lamsdorff sydd heddiw yn rhan o Wlad Pwyl i Odessa yn yr Ukraine. Wrth iddo drafeilio cafodd ei ddal gan y Rwsiaid, roedd yn rhaid iddo brofi ei fod yn filwr Prydeinig ac nid ysbiwr Almaeneg oedd o. Roedd yn rhaid profi hyn drwy saethu Almaenwr, geiriau yr Almaenwr hwnnw oedd

“Gwna fo’n gyflym.”

Rhywsut roedd o’n gwybod bod llong yn dod i Odessa gyda carcharorion Rwsiaidd oedd wedi dianc i Brydain,  i’w cyfnewid gyda carcharorion Prydeinig. Fe saethwyd y carcharorion Rwsiaidd gan y Rwsiaid eu hunain oherwydd credant bod eu meddyliau wedi eu difwyno gan syniadau croes i Gomiwnyddiaeth.

Roedd y llong wedi aros yn  yn yr Aifft ar ei ffordd i Brydain. (Gwelwch y map  isod yn dangos yn fras y ffordd a drafeiliodd fy Nhaid.)

Rhaid cofio bod pob un o’r pobl oedd ar y llong wedi bod mewn carchar am flynyddoedd, ac am flynyddoedd wedi byw bywyd lle doedden nhw ddim yn gwybod pryd oedd y pryd o fwyd nesaf am fod, felly pan ddaeth yn amser bwyta ar y llong roedd y milwyr yn bwyta gymaint ag y gallent nes iddyn nhw fynd yn sâl. Hefyd roeddent yn cuddio bwyd o gwmpas y lle i gyd. Roedd capten y llong wedi sylwi bod hyn yn broblem, felly gwnaeth yn siwr bod y ffreutyr ar agor drwy gydol yr amser fel bod y milwyr yn gallu bwyta pan yr oeddent angen bwyd ac hefyd i geisio helpu’r cyn-garcharorion rhyfel yma ddod i arfer gyda bywyd arferol.

Pan cyrhaeddodd fy nhaid Prydain roedd yn pwyso llai na 6 stôn. Gan ei fod mor wan a sâl roedd yn rhaid iddo dreulio amser mewn ysbyty i ddod yn well.

Cyrhaeddodd ei gartref ym Mhensarn yn ystod yr hâf(roedd ei wraig a’i blentyn wedi cael eu symyd i Ogledd Cymru oherwydd cafodd eu ty yn Lerpwl ei fomio) . Gwelodd ei ferch am y tro cyntaf yn bump mlwydd oed, credai llawer mai’r lluniau a yrrwyd iddo o’i blentyn – Lilly a’i wraig – Elizabeth, oedd wedi rhoi’r ewyllys iddo ddal ymlaen.

Rhai lluniau o'i ferch a yrrwyd iddo tra yn Stalag 8b/344

 

Roedd ei wraig a’i chymdogion wedi gosod banneri ar draws y stryd i’w groesawu’n ôl. (er yn ystod y nos roedd gwyntoedd mawr  wedi chwythu’r baneri i ffwrdd)

Gofynnais i fy Modryb Lill i adrodd yr hanes am pan ddaeth ei thad yn ôl gartref am y tro cyntaf. Dywedood hi ei bod wedi cael ei chodi gan swn traed yn dod i fyny’r grisiau, gwelodd ddyn mewn gwisg  milwr yn agor y drws a cherdded i mewn i’w llofft, gofynodd iddo

“Are you my Daddy?”

Atebodd yntau

“Yes”

Roedd bod yn garcharor rhyfel wedi effeithio gweddill bywyd fy Nhaid. Yn fuan ar ôl dod adref roedd yn cael adegau pan oedd yn anghofio ei fod gartref ac yn meddwl ei fod yn ôl yn Stalag344. Ar yr adegau yna roedd yn cuddio bwyd ac yn bwyta unrhyw beth oedd yn y rhewgell, hyd yn oed wyau crai! 

 Roedd wastad yn gwanhau bwydydd (cawl, ffa pob) i’w wneud iddo barhau am hirach, felly roedd yn rhaid i fy Nain, neu pwy bynnag oedd yn  coginio, peidio a troi eu cefnau ar y bwyd yr oeddent yn ei baratoi rhag iddo ei wanhau.  

Roedd o hefyd yn eithaf llym gyda’i blant, yn enwedig yn fuan ar ôl  y rhyfel, ac yn defnyddio geirfa milwrol pan oedd yn eu cosbi e.e. "confined barracks" yn golygu nad oeddent yn cael mynd allan gyda’i ffrindiau.

 

Cafodd y wefan hon ei hadnewyddu ddiwethaf: 17/10/05