Roedd fy nhad wedi cael ei ddal yn Arras yn Ffrainc ar y 23ain o
FAI 1940. Cafodd ei yrru yn syth i Stalag. Roedd o'n gweithio y rhan
fwyaf o'r amser, yn y chwareli nes i un o'i ffrindiau ddianc. Roedd o
yna wedi cael ei yrru i felin lifio lle treuliodd gweddill y rhyfel.
Wedi hynny roedd yn sâl am y rhan fwyaf o'i fywyd yn dioddef gan
nerfusrwydd. Mae fy Mam yn mynd i'r Eglwys lle mae dyn o'r enw Les yn
mynd. Roedd o hefyd yn Stalag 8B. Blwyddyn dwythaf mi rois iddo rhai o
gylchgronnau Carcharorion Rhyfel yr ydwyf i'n eu casglu. Wrth ddarllen
un ohonynt fe ddechraeodd grio. Roedd o wedi darllen am ddynes yn
Canterbury a oedd wedi rhi hysbyseb yn y cylchgrawn yn gofyn a oedd
unrhyw un yn gallu dweud wrthi sut yr oedd ei brawd wedi marw yn Ffrainc
ym 1940. Roedd Les yn gwybod sut yr oedd o wedi marw. Cododd y ffôn yn
syth i ddweud wrthi.
Dwedodd eu bod nhw mewn pentref yn Ffrainc, yn yfed
tê, yn aros am
orchmynion i symyd allan. Pan ddaeth y gorchymun rhoddodd pawb eu
cwpanau i lawr a dechrau ffurfio rhengi. Roedd ei brawd wedi penderfyny
casglu'r cwpanau a'i rhoi yn ôl i un o'r tai, wrth iddo wneud hyn roedd
y ty wedi cael ei daro yn union gan siel Almaeneg a cafodd ei chwythu yn
ddarnau. Gofynnodd y ddynes a fuasai hi'n gallu dod draw i weld Les.
Dywedodd Les y buasai yn yr Eglwys ar Ddydd Sul, ac y bydda fo'n iawn
iddi ei gyfarfod o yna. Ar y Sul hwnnw daeth y ddynes gyda'i theulu
ac roedden nhw i gyd yn diolch i Les ac yn dweud eu bod nhw rwan yn
gallu claddu ei gof, gan nad oedd yna gorff i'w gladdu. Mae Les yn
teithio i wahanol ysgolion ac yn dweud yr hanes i'r holl blant. Ar ôl
gorffen dweud yr hanes mae Les a'r plant mewn dagrau.
|